SL(6)456 – Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (“y prif Reoliadau”). Diben y Rheoliadau hyn yw egluro’r rhaniad cyfrifoldebau rhwng perchnogion brand, pacwyr/llanwyr, mewnforwyr a pherchnogion cyntaf yn y DU adosbarthwyr, a gosod gofyniad ar Cyfoeth Naturiol Cymru i lunio canllawiau mewn cysylltiad â phecynwaith cartref a chyhoeddi rhestr o gynhyrchwyr mawr. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu nifer o ddiwygiadau amrywiol, gan gynnwys egluro brawddegau a diwygio gwallau teipograffyddol.

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd.  Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 12 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 5(b) yn mewnosod diffiniad o “grŵp o gwmniau” yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau, sef y ddarpariaeth ddehongli ar gyfer termau sydd ag ystyr drwy gydol y Rheoliadau hynny. Dim ond yn rheoliad 11 o'r prif Reoliadau y defnyddir y diffiniad hwn ac mae rheoliad 11(9) yn datgan bod y diffiniadau at ddibenion y rheoliad hwnnw. Nid yw termau eraill sydd wedi'u diffinio o fewn darpariaeth ac a ddefnyddir yn y ddarpariaeth honno yn unig wedi'u cyfeirio yn y modd hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 5(c)(i) a (ii), dylai 'is-baragraff' fod yn 'baragraff' gan mai dyma'r adrannau cyntaf yn y diffiniad o “mewnforiwr”, yn hytrach nag adrannau o baragraff (1) o reoliad 2 o’r prif Reoliadau.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 8, yn rheoliad newydd 7(3)(b)(i) a (ii), nid yw’r cyfeiriadau at “bodloni’r gofyniad ym mharagraff (i)” a “bodloni’r gofyniad ym mharagraff (ii)” yn dynodi lleoliad y paragraffau hynny yn y prif Reoliadau yn ddigonol. Dylent gyfeirio at baragraff (2)(b)(i) a pharagraff (2)(b)(ii) yn y drefn honno, i roi sicrwydd i'r darllenydd.

4.    Rheol Sefydlog 21.2 (v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 8, yn rheoliad 7(6) newydd, darperir rhestr o sefydliadau a phersonau sydd i'w trin fel sefydliadau cyhoeddus at ddibenion rheoliad 7 a rheoliad 7A. Nid oes unrhyw gyfeiriad at y rhestr hon yn rheoliad 7A, a allai olygu nad yw’r darllenydd yn ymwybodol o sut i ddehongli 'sefydliadau cyhoeddus' wrth ddarllen rheoliad 7A ar ei ben ei hun.

5.    Rheol Sefydlog 21.2 (v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 8, yn rheoliad 7(6) newydd, yn is-baragraff (a) yn y rhestr o sefydliadau a phersonau sydd i’w trin fel sefydliadau cyhoeddus ceir y term “ysgol, prifysgol, neu sefydliad addysgol arall”. A all Llywodraeth Cymru ddarparu enghreifftiau o sefydliadau a fyddai’n dod o dan “sefydliad addysgol arall” ac egluro a yw’n ystyried ei bod yn ddigon clir i’r sefydliadau posibl hynny gael eu hadnabod at ddibenion rheoliad 7 a rheoliad 7A o’r prif Reoliadau.

6.    Rheol Sefydlog 21.2 (v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn rheoliad 8, yn rheoliad 7(8) newydd, diffinnir y termau “bin cartref” a “bin cyhoeddus” ar gyfer rheoliad 7 a rheoliad 7A newydd o'r prif Reoliadau. Efallai na fydd y darllenydd yn ymwybodol o dermau sydd wedi’u diffinio mewn rheoliad blaenorol (gweler Drafftio Deddfau i Gymru: Canllaw 4.8(4), mewn perthynas â diffiniadau arfaethedig). Gofynnwn a ddylai’r termau fod wedi’u cynnwys fel diffiniadau cyffredinol yn rheoliad 2(1) o’r prif Reoliadau, fel sydd wedi’i wneud gyda thermau diffiniedig eraill a ddefnyddir mewn mwy nag un rheoliad.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “bin cyhoeddus”, mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Ym mharagraff (ii) o’r diffiniad, mae’r testun Saesneg yn datgan “collect waste material” ond nid yw’n ymddangos ei fod yn gwneud synnwyr heb unrhyw eiriau ychwanegol. Mae’r testun Cymraeg wedi cyfieithu hyn fel “sydd wedi ei gynllunio i gasglu deunydd gwastraff” (“designed to collect waste material”).  Yn hyn o beth, defnyddir yr ymadrodd “designed to collect waste material” yn y diffiniad o “household bin” yn nhestun Saesneg rheoliad newydd 7(8)(a). Felly, mae’n ymddangos mai’r testun Cymraeg sy’n rhoi’r diffiniad cywir o “bin cyhoeddus” a bod y geiriau “designed to” ar goll o destun Saesneg y rheoliad newydd 7(8)(b).

8.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.

Yn rheoliad 9, yn rheoliad newydd 7A(2), yn is-baragraff (d), yn y testun Cymraeg, mae “consumer” wedi ei gyfieithu fel “defnyddiwr”. Fodd bynnag, mae'r term “consumer” wedi'i ddiffinio yn nhestun Cymraeg rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau fel “treuliwr”. Mewn rhan arall o’r prif Reoliadau, mae “defnyddiwr” wedi'i ddefnyddio fel cyfieithiad o “user” i wahaniaethu rhwng y term hwnnw a “treuliwr” (“consumer”). Felly, mae’r testun Cymraeg wedi methu â defnyddio’r term diffiniedig cywir ar gyfer “consumer” wrth gyfieithu’r ddarpariaeth hon.

9.    Rheol Sefydlog 21.2 (v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 10(b) yn diwygio paragraff 2 o reoliad 8 o'r prif Reoliadau. Ceir cyfeiriad o hyd at “paragraff (4)” yn y paragraff hwnnw, sy’n cael ei hepgor gan reoliad 10(d) o'r Rheoliadau hyn.

10. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

(i)            Yn rheoliad 17, yn rheoliad newydd 17A(1), mae’n datgan “Pan fo gwybodaeth mewn adroddiad a gyflwynir gan gynhyrchydd (“CM”) o dan reoliad 17…”. Fodd bynnag, dylai nodi gan “gynhyrchydd mawr (“CM”)” oherwydd mai dim ond “cynhyrchydd mawr (“CM”)” sy’n ddarostyngedig i’r rhwymedigaethau a geir yn rheoliad 17. Mae “cynhyrchydd” a “cynhyrchydd mawr” yn dermau diffiniedig a geir yn rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau, felly mae gwahaniaeth sylweddol drwy ddefnyddio “cynhyrchydd” yn hytrach na “cynhyrchydd mawr” yn rheoliad 17A(1) newydd.

(ii)           Mae hyn hefyd yn digwydd yn rheoliad 19, yn rheoliad 22A newydd pan ddefnyddir “cynhyrchydd mawr” yn gywir ym mharagraff (1), ond defnyddir “cynhyrchydd” wedi hynny ym mharagraff (2) o'r rheoliad newydd hwnnw.

11. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 20(e), mae’n datgan “ym mharagraff 17, ym mharagraffau (a) a (b)” ond dylai ddatgan “yn is-baragraffau (a) a (b)”.

12. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae Rheoliad 20(g) yn diwygio paragraff 20 o Atodlen 1 i’r prif Reoliadau. Mae is-baragraff (i) o reoliad 20(g) yn nodi 'ar ddiwedd y geiriau agoriadol', ond nid oes geiriau agoriadol i baragraff 20(a). Credwn y dylid dileu’r geiriau ‘is-baragraff (a)’ o’r geiriad sy’n rhagflaenu paragraff (i) gan ei bod yn ymddangos bod y gwelliant yn berthnasol i eiriau agoriadol paragraff 20, ac nid is-baragraff (a). At hynny, nid yw'r holl ddiwygiadau yn rheoliad 20(g) yn cael eu gwneud i destun yn is-baragraff (a) o baragraff 20 o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pedwar pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

13. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u gosod o dan adran 2(8) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ac felly maent yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Mae adran 2(9) o’r Ddeddf honno yn rhestru’r rheoliadau y mae is-adran (8) yn gymwys iddynt. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gadarnhau pa baragraff o is-adran (9) y mae’n ystyried sy’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

14. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mewn perthynas ag ymgynghori, nodwn y canlynol ym mharagraff 16 o’r Memorandwm Esboniadol:

Bu gwaith ymgysylltu wedi’i dargedu gyda rhanddeiliaid allweddol ar ôl i’r Prif Reoliadau gael eu cyflwyno, sydd wedi helpu i nodi’r diwygiadau i’r Rheoliadau hyn.

Nodwn nad yw'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999, y cyfeirir ato yn y rhagymadrodd i'r Rheoliadau.

15. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodir na chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Caiff y canlynol ei ddatgan ym mharagraff 17 o’r Memorandwm Esboniadol:

Cafodd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ei ystyried mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Nid ystyrid bod angen cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision tebygol a fyddai’n deillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y cynllun EPR yn cynnwys dadansoddiad llawn o’r diwygiadau i EPR, a bod y diwygiadau’n fach iawn.

16. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodir bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn llythyr at y Pwyllgor hwn dyddiedig 16 Chwefror 2024, wedi hysbysu bod y Rheoliadau hyn yn dod o dan gwmpas y Fframwaith Cyffredin Adnoddau a Gwastraff.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bwyntiau adrodd 1 i 14.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Chwefror 2024